Prosiect cyffrous sy’n canolbwyntio ar ddatblygu’r sector celfyddydau creadigol lleol a chreu rhwydwaith diwylliannol ar draws y sir yw Ysbrydoli Sir Benfro.

Ei nod yw cynyddu cydweithio a datblygu sgiliau entrepreneuraidd i adeiladu gwydnwch ar gyfer darparwyr celfyddydau creadigol yn Sir Benfro. Bydd hyn yn galluogi ymgysylltu hirdymor â chymunedau i ddefnyddio gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r celfyddydau i gryfhau cydlyniant cymunedol, mynd i’r afael â thlodi, adfywio, a gwella iechyd a llesiant.

Gallwch helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu’r prosiect hwn drwy rannu eich profiad o ddigwyddiadau a gweithgareddau creadigol yn Sir Benfro.

ENNILL taleb siopa Stryd Fawr gwerth £15 neu docynnau i Theatr Torch

Cwblhewch ein harolwg byr a byddwn yn eich cynnwys mewn cystadleuaeth i ennill un o 10 o dalebau siopa Stryd Fawr Swyddfa’r Post gwerth £15 yr un neu bâr o docynnau i weld ‘One Man Two, Guvnors’ yn Theatr Torch. 

Telerau ac Amodau’r Gystadleuaeth: I gymryd rhan, cwblhewch yr arolwg ar-lein a nodwch eich cyfeiriad e-bost yn yr adran olaf. Dim ond un waith y gall person roi cynnig arni. Dyddiad cau’r gystadleuaeth: Dydd Sul 19 Medi 2019 (hanner nos). Wedi hynny bydd cyfanswm o 11 o enillwyr yn cael eu dewis a gwobrau yn cael eu dyfarnu ar hap. Mae’r gwobrau’n cynnwys: 10 x £15 o dalebau siopa Stryd Fawr Swyddfa’r Post neu bâr o docynnau i weld ‘One Man Two, Guvnors’ yn Theatr Torch (dangosiad 31 Hydref). Cyhoeddir enillwyr dim hwyrach na dydd Llun 30 Medi 2019.

A ydych chi'n gweithio yn y sector celfyddydau a hoffech gydweithio?

Os ydych chi’n unigolyn neu’n sefydliad sy’n gweithio yn y sector celfyddydau yn Sir Benfro, byddwch yn elwa o’r prosiect hwn. Os hoffech ddilyn ein cynnydd a chael gwahoddiad i gymryd rhan mewn trafodaethau yn y dyfodol ynglŷn â datblygiad y prosiect, nodwch eich cyfeiriad e-bost isod a byddwn yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â chi.

Sue Davies - Swyddog Datblygu Celfyddydau Ysbrydoli Sir Benfro Pembrokeshire Inspired

CYSYLLTWCH Â FI ar Twitter @SueDCHA

“Yr ysbrydoliaeth i’r prosiect cyffrous hwn yw treftadaeth a diwylliant unigryw Sir Benfro. Dim ond yn rhannol yr ydym yn gwireddu pŵer posibl addysgol y sector diwylliannol yn llawn drwy ei werth cymdeithasol cyfunol. Mae’r celfyddydau yn ei holl ffurfiau yn darparu amgylcheddau dysgu creadigol, pleserus, gyda’r potensial i gymell, difyrru ac ysbrydoli cynulleidfaoedd o bob oed, diwylliant a chefndir.

Rydym yn awyddus i ddemocrateiddio diwylliant a chreadigrwydd – mae’r rhan fwyaf ohonom yn cyfrannu at ddigwyddiadau diwylliannol hyd yn oed os nad ydym yn eu labelu felly, drwy fynychu yn unig. Mae diwylliant yn ymwneud â’n bywydau yn gyffredinol; y ffydd yr ydym yn byw, siarad, credu, beth ydym yn ei greu, dathlu, ond wrth ei wraidd mae’r weithred o fod yn greadigol – ysbryd creadigol.”

Ariennir Ysbrydoli Sir Benfro gan Arwain Sir Benfro – y Grŵp Gweithredu Lleol (LAG) ar gyfer Sir Benfro, a weinyddir gan PLANED sy’n cefnogi prosiect i gyflawni amcanion thema ‘Ychwanegu gwerth i hunaniaeth leol, adnoddau naturiol ac adnoddau diwylliannol’ RDP LEADER yng nghefn gwlad Sir Benfro, gan ganolbwyntio ar ddatblygu sectorau celfyddydau creadigol yn Sir Benfro.